The form may be slow to load, please leave a few seconds for each page to load before taking any action.

We apologise for any inconvenience this may cause. If you have any questions about the recent changes we’ve made to this form please contact us.

Adrodd am ddigwyddiad difrifol ar ran y corff ymddiriedolwyr

Defnyddiwch y ffurflen hon os oes gennych chi awdurdod yr ymddiriedolwyr i adrodd am ddigwyddiad difrifol i'r Comisiwn Elusennau.
Gallwch gadw'ch ffurflen ar unrhyw adeg drwy glicio ar y botwm 'Cadw Cynnydd y Ffurflen. Unwaith y bydd wedi'i chadw byddwch yn gallu lawrlwytho ac argraffu'ch ffurfle.
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen i adrodd am fwy nag un digwyddiad difrifol drwy ddewis y botwm 'adrodd am ddigwyddiad arall' ar y dudalen datganiad.
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i anfon diweddariad atom ar adroddiad rydych eisoes wedi'i gyflwyno. Bydd angen rhif cyfeirnod arnoch.

Cyn dechrau

I ddefnyddio'r ffurflen hon bydd angen manylion cyswllt arnoch, gan gynnwys:

  • eich manylion cyswllt chi, enw'r elusen ac, os yw'n gofrestredig, y rhif cofrestru
  • rhifau cyfeirnod a manylion cyswllt, os ydych wedi ei adrodd i sefydliadau eraill, megis yr heddlu
  • enwau a rhifau cofrestru elusennau eraill sy'n rhan o'r digwyddiad, os yw'n berthnaso

Bydd angen manylion y digwyddiad arnoch hefyd, gan gynnwys:

  • dyddiad y digwyddiad
  • beth ddigwyddodd
  • y dyddiad y cafodd yr elusen wybod am y digwyddiad
  • sut y cafodd yr elusen wybod am y digwyddiad
  • a yw'r ymddiriedolwyr yn ymwybodol o'r digwyddiad
  • pa effaith y mae'r digwyddiad wedi'i chael ar fuddiolwyr, cyllid, staff, gweithrediadau neu enw da'r elusen

Bydd angen manylion ynghylch sut mae'ch elusen yn delio â'r digwyddiad arnoch hefyd, gan gynnwys:

  • pa bolisïau neu weithdrefnau'r elusen sy'n berthnasol i'r digwyddiad, ac a gawsant eu dilyn
  • pa gamau y mae'r elusen wedi'u cymryd i ddelio â'r digwyddiad
  • pa gamau y mae'r elusen wedi'u cymryd i atal digwyddiadau tebyg
  • os yw'n gymwys, llinellau ffôn y cyfryngau/y wasg yr elusen, gan gynnwys dolen i ddatganiad i'r wasg os yw ar gael

Sut y byddwn yn defnyddio data personol

Os gallwch, peidiwch â rhoi data personol i ni am bobl eraill. Dylech eu cynnwys dim ond os yw'n hanfodol i wneud eich adroddiad. Er enghraifft, dywedwch 'mae unigolyn wedi dwyn o'r elusen' yn hytrach na 'mae Joe Bloggs wedi dwyn o'r elusen'
Os oes angen rhagor o fanylion arnom, byddwn yn gofyn amdanynt ar ôl i chi anfon eich adroddiad.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn esbonio beth yw data persono .

Bydd y ffurflen hon yn gofyn am y data personol canlynol:

  • eich enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a'ch cysylltiad â'r elusen er mwyn i ni allu cysylltu â chi i gael eglurhad neu wybodaeth bellach os oes angen (mae angen cofnod arnom hefyd o'r person sy'n cyflwyno'r adroddiad ar ran yr elusen)
  • enw, dyddiad geni a chyfeiriad unrhyw ymddiriedolwyr yr elusen sydd wedi'u hanghymhwyso a'r rheswm dros yr anghymhwyso er mwyn i ni allu cadarnhau'r wybodaeth, asesu unrhyw risgiau i elusennau eraill a phenderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau rheoleiddiol
  • os ydych wedi adrodd y digwyddiad difrifol i reoleiddiwr/asiantaeth arall, enw a manylion cyswllt eich cyswllt yn yr asiantaeth/rheoleiddiwr er mwyn i ni allu cysylltu â nhw am ragor o wybodaeth os oes angen ac, mewn rhai achosion, cydlynu ein hymateb

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut rydym yn defnyddio'r data personol yn y ffurflen hon.

Adrodd am ddigwyddiad difrifol i'r Comisiwn Elusennau

Defnyddiwch ein ffurflen i adrodd am ddigwyddiad difrifol newydd neu ddiweddaru digwyddiad yr adroddwyd arno eisoes